Mae Asthma + Lung UK yn gweithio ar y cyd â GIG Cymru, GIG Lloegr, GIG yr Alban a’r Adran Iechyd (Gogledd Iwerddon) i’ch cefnogi i wneud newidiadau fel y gallwch fyw’n well gyda'ch cyflwr ar yr ysgyfaint a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.
Mae'r prosiect hwn wedi'i gefnogi trwy bartneriaeth a ariennir gyda GIG Lloegr.
Mae’r dudalen we hon wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg, ond mae rhai o’r hypergysylltiadau yn mynd â chi i dudalennau gwe Saesneg.
Beth yw'r cysylltiad rhwng mewnanadlwyr a'r amgylchedd?
Os oes gennych asthma, COPD neu gyflwr arall ar yr ysgyfaint, mae mewnanadlwyr yn cynnwys meddyginiaethau hanfodol i'ch helpu i gadw'n iach.
Y mewnanadlydd gorau yw'r un sy'n gweithio'n dda i chi. Mae gofalu am eich cyflwr ar yr ysgyfaint yn dda yn well i chi a'r amgylchedd.
Mae rhai mewnanadlwyr yn defnyddio nwy, a elwir yn yrwyr, i greu pwff o feddyginiaeth, sydd wedyn yn cael ei fewnanadlu gan y person sy'n eu defnyddio. Gelwir y mathau hyn o fewnanadlwyr yn fewnanadlwyr dos mesuredig gwasgeddedig (pMDIs).
Mae'r gyrwyr mewn pMDIs yn nwyon tŷ gwydr pwerus ac maen nhw filoedd o weithiau'n fwy pwerus na charbon deuocsid. Maen nhw'n ddiogel i'r sawl sy'n eu defnyddio, ond yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Mae llawer o bobl yn y DU yn defnyddio pMDIs, a elwir hefyd yn fewnanadlwyr aerosol neu puffers yn Saesneg. Fel arfer mae ganddyn nhw gas plastig a chanister metel. Mae pMDIs yn cyfrif am 70% o fewnanadlwyr a ragnodwyd yn y DU, gan achosi 3% o allyriadau carbon cyffredinol y GIG. Mae hyn yn golygu mai nhw yw’r cyfrannwr unigol mwyaf at allyriadau carbon y GIG o blith unrhyw feddyginiaeth.
Am y rheswm hwn, mae'r GIG yn annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i roi'r dewis i bobl dros 12 oed newid i fewnanadlydd carbon is. Dysgwch am newid i fewnanadlydd carbon is.
Nid oes gan bob pMDI yr un ôl troed carbon. Er enghraifft, mae gan Ventolin Evohaler ôl troed carbon uwch na Salamol. Mae'r ddau pMDI hyn yn gweithio cystal â'i gilydd ac yn cynnwys yr un feddyginiaeth. Y gwahaniaeth yw bod gan Salamol ôl troed carbon is, er ei fod yn dal i gynnwys nwyon tŷ gwydr.
Os oes gennych fewnanadlydd atal pMDI
Os oes gennych fewnanadlydd atal pMDI mae'n bwysig ei gymryd bob dydd fel y rhagnodir, i leihau eich risg o brofi symptomau. Dylai hefyd olygu bod angen i chi ddefnyddio eich mewnanadlydd lliniaru yn llai aml. Peidiwch â rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch mewnanadlydd cyn siarad â'ch meddyg teulu, nyrs anadlol neu fferyllydd.
Pa fewnanadlwyr sydd fwyaf caredig i'r amgylchedd?
Y newyddion da yw bod yna fewnanadlwyr ag ôl troed carbon llawer is na pMDIs. Mae yna ddau fath gwahanol: mewnanadlwyr powdr sych (DPIs) a mewnanadlwyr niwl mân (SMIs). Mae gan y mewnanadlwyr hyn ôl troed carbon is oherwydd nad ydynt yn cynnwys nwyon tŷ gwydr.
Gall y rhan fwyaf o bobl ddefnyddio DPI neu SMI ac mae'n well gan lawer o bobl eu defnyddio, gan nad oes angen i chi ddefnyddio gwahanydd (Saesneg yn unig). Mae gan y rhan fwyaf o DPIs ac SMIs hefyd rifydd dos, i'ch helpu i gadw golwg ar faint o feddyginiaeth sydd gennych ar ôl.
Ni fydd pawb yn gallu newid i DPI neu SMI. Ar y cyd â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gallwch benderfynu ar y math gorau o fewnanadlydd carbon is i chi a'ch cyflwr ar yr ysgyfaint. Os na allwch newid i fewnanadlydd atal carbon is, y peth pwysig yw gwneud iddo weithio cystal â phosibl. Mae hyn yn golygu ei gymryd bob dydd, fel y rhagnodir, gyda'r dechneg mewnanadlydd gywir (Saesneg yn unig).
Cofiwch, mae gofalu am eich cyflwr ar yr ysgyfaint yn dda yn well i chi a'r amgylchedd. Gwneir hyn orau pan fyddwch yn defnyddio mewnanadlydd sy'n gweithio'n dda i chi. Dysgwch fwy am y pethau syml y gallwch chi eu gwneud i sicrhau eich bod yn cymryd eich mewnanadlwyr yn y ffordd orau i chi a’r amgylchedd.
Beth yw ôl troed carbon fy mewnanadlydd?
Mae gan wahanol fewnanadlwyr ôl traed carbon gwahanol.
Efallai nad ydych chi'n gwybod pa fath penodol o fewnanadlydd rydych chi'n ei ddefnyddio. Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi datblygu canllaw i helpu i lywio penderfyniadau (Saesneg yn unig) cleifion am fewnanadlwyr, a all eich helpu i ddysgu am y math o fewnanadlydd rydych chi'n ei ddefnyddio.
Sut gallaf leihau ôl troed carbon fy mewnanadlwyr os oes angen pMDI arnaf?
Cymerir y rhan fwyaf o pMDIs ddwywaith y dydd. Fodd bynnag, mae'n bosibl gyda rhai pMDIs i ddefnyddio un pwff ar ddos uwch, yn hytrach na dau bwff ar ddos is.
Mae llai o byffiau yn golygu bod llai o yrwyr yn cael eu rhyddhau. Efallai y bydd eich meddyg teulu, nyrs anadlol neu fferyllydd yn awgrymu newid i fewnanadlydd sy'n golygu eich bod yn cymryd llai o byffiau, hyd yn oed os yw'r dos cyffredinol a gymerwch yn aros yr un peth.
Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn peidio â newid pa mor aml y byddwch yn cymryd eich mewnanadlydd heb siarad â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Mae ffyrdd syml eraill o leihau ôl troed carbon eich mewnanadlwyr, hyd yn oed os oes angen i chi ddefnyddio pMDI. I ddysgu mwy, daliwch ati i ddarllen.
Gofalu am eich cyflwr ar yr ysgyfaint
Mae rheoli eich asthma, COPD neu gyflwr arall ar yr ysgyfaint yn dda yn well i'ch iechyd a'r amgylchedd.
Os ydych chi'n defnyddio pMDI, efallai yr hoffech chi hefyd ystyried defnyddio gwahanydd. Mae defnyddio gwahanydd yn helpu’r swm cywir o feddyginiaeth i gyrraedd eich ysgyfaint, lle mae ei angen. Mae hyn yn helpu i leihau sgileffeithiau ac yn golygu nad ydych yn gwastraffu meddyginiaeth. Efallai y bydd hefyd yn haws i chi gymryd eich meddyginiaeth gyda gwahanydd.
Os ydych chi'n defnyddio DPI neu SMI, nid oes angen i chi ddefnyddio gwahanydd.
Darllenwch fwy am wahanyddion (Saesneg yn unig), gan gynnwys sut i ddefnyddio un.
Os oes gennych chi asthma, mae cymryd eich mewnanadlydd atal (Saesneg yn unig) bob dydd, fel y rhagnodir, yn golygu na ddylai fod angen i chi gymryd eich mewnanadlydd lliniaru cymaint i ddelio â symptomau asthma. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n defnyddio llai o fewnanadlwyr yn gyffredinol, sy'n well i chi a'r amgylchedd.
Os bydd angen i chi ddefnyddio'ch mewnanadlydd lliniaru (Saesneg yn unig) dair gwaith yr wythnos neu fwy, siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Gallai hyn fod yn arwydd cynnar o bwl o asthma neu fflamychiad (flare-up), felly mae’n bwysig adolygu eich asthma cyn gynted â phosib.
Os oes gennych COPD neu gyflwr arall ar yr ysgyfaint a’ch bod yn cael mewnanadlydd i’w gymryd yn rheolaidd, mae’n bwysig eich bod yn ei gymryd fel y rhagnodir. Gwnewch hyn hyd yn oed os byddwch chi'n teimlo'n dda, oherwydd gall hyn eich helpu i reoli'ch symptomau a lleihau'r risg o gael fflamychiad.
Mae defnyddio'r dechneg mewnanadlydd gywir hefyd yn bwysig iawn. Mae'n ffordd hawdd o:
• helpu i gadw symptomau eich ysgyfaint dan reolaeth
• lleihau eich risg o sgileffeithiau o'ch meddyginiaethau
• gwastraffu llai o feddyginiaeth – mae techneg mewnanadlydd dda yn sicrhau bod y swm cywir o feddyginiaeth yn mynd i mewn i'ch llwybrau anadlu.
Os byddwch chi'n defnyddio'r dechneg mewnanadlydd gywir pan fyddwch chi'n defnyddio'ch mewnanadlydd atal, byddwch chi'n llai tebygol o fod angen eich mewnanadlydd lliniaru i ddelio â symptomau.
I bobl ag asthma, os caiff eich asthma ei reoli'n dda, ni ddylai fod angen i chi ddefnyddio mwy na dau fewnanadlydd lliniaru fesul blwyddyn. Mae defnyddio tri mewnanadlydd lliniaru neu fwy fesul blwyddyn yn arwydd bod eich asthma wedi’i reoli’n wael, gan gynyddu eich risg o gael pwl o asthma.
Mae rheoli eich cyflwr ar yr ysgyfaint yn dda hefyd yn golygu y byddwch yn defnyddio llai o fewnanadlwyr yn gyffredinol, a fydd yn helpu i leihau ôl troed carbon mewnanadlwyr.
Gofynnwch i'ch fferyllydd, nyrs neu feddyg teulu ddangos i chi sut i ddefnyddio pob math o fewnanadlydd sydd gennych. Dylech hefyd gael eich techneg mewnanadlydd wedi'i gwirio yn ystod eich adolygiad asthma blynyddol neu archwiliad cyflwr ar yr ysgyfaint.
Ffordd gyflym a hawdd o wirio eich bod yn defnyddio’r dechneg mewnanadlydd (Saesneg yn unig) gywir yw gwylio ein fideos byr ar dechnegau mewnanadlydd.
Os bydd angen mwy o gymorth arnoch gyda'ch mewnanadlwyr, gallwch ffonio ein Llinell Gymorth ar 0300 222 5800 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). Gall ein nyrsys cyfeillgar a chynghorwyr gofal iechyd gynnig cymorth gydag unrhyw agwedd ar eich cyflwr ar yr ysgyfaint, gan gynnwys newid mewnanadlwyr.
Cael gwared ar fewnanadlwyr
Ni ellir ailgylchu mewnanadlwyr gyda sbwriel y cartref. Pan roddir mewnanadlwyr yn y bin gartref, gallant fynd i safleoedd tirlenwi a chaiff unrhyw nwyon tŷ gwydr sy'n weddill o pMDIs eu rhyddhau i'r atmosffer.
Y ffordd orau o gael gwared ar fewnanadlwyr yw mynd â nhw i'ch fferyllfa leol. Gall eich fferyllfa anfon eich mewnanadlwyr i gael eu llosgi â gwastraff meddygol arall. Mae'r math hwn o waredu yn lleihau effaith y nwyon tŷ gwydr sydd dros ben. Mae hyn yn well i'r amgylchedd, o'i gymharu â rhoi mewnanadlwyr mewn safleoedd tirlenwi.
Mewn rhai achosion, gall fferyllfeydd ailgylchu mewnanadlwyr, sy'n golygu y gellir ailgylchu'r plastig a'r nwyon.
Cael cefnogaeth
Ffoniwch neu anfonwch neges WhatsApp at ein Llinell Gymorth i gael cymorth gyda'ch cyflwr. Mynnwch gyngor ar eich meddyginiaethau, symptomau neu deithio gyda chyflwr ar yr ysgyfaint, neu ffoniwch ni i ddweud helo.