Mae Asthma + Lung UK yn gweithio ar y cyd â GIG Cymru, GIG Lloegr, GIG yr Alban a’r Adran Iechyd (Gogledd Iwerddon) i’ch cefnogi i wneud newidiadau fel y gallwch fyw’n well gyda'ch cyflwr ar yr ysgyfaint a helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.
Mae'r prosiect hwn wedi'i gefnogi trwy bartneriaeth a ariennir gyda GIG Lloegr.
Mae’r dudalen we hon wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg, ond mae rhai o’r hypergysylltiadau yn mynd â chi i dudalennau gwe Saesneg.
Negeseuon allweddol
1. Defnyddiwch eich mewnanadlydd atal bob dydd, fel y rhagnodir
Mae cymryd eich mewnanadlydd atal yn eich helpu i osgoi pwl o asthma neu fflamychiad (flare-up) o COPD. Bydd osgoi pwl o asthma neu fflamychiad o COPD yn eich helpu i aros yn iach ac allan o’r ysbyty, felly bydd gennych lai o symptomau a bydd angen i chi ddefnyddio llai o fewnanadlwyr lliniaru yn gyffredinol. Mae hyn yn dda i chi ac i'r amgylchedd.
Darllenwch fwy am sut mae eich mewnanadlydd atal yn lleihau eich risg o ddatblygu symptomau asthma a phyliau o asthma (Saesneg yn unig).
Dysgwch am y gwahanol fewnanadlwyr a ddefnyddir i drin COPD (Saesneg yn unig).
2. Defnyddiwch y dechneg mewnanadlydd gywir
Mae defnyddio'r dechneg gywir bob tro y byddwch chi'n cymryd eich mewnanadlwyr yn bwysig iawn. Er enghraifft, os byddwch chi'n defnyddio'r dechneg gywir bob tro y byddwch chi'n defnyddio'ch mewnanadlydd atal neu'ch mewnanadlydd cynnal, byddwch chi'n llai tebygol o fod angen eich mewnanadlydd lliniaru neu'ch mewnanadlydd achub i ddelio â'r symptomau.
Ddim yn siŵr beth yw'r dechneg mewnanadlydd orau? Mae’n gyflym ac yn hawdd ei wirio trwy wylio ein fideos techneg mewnanadlydd (Saesneg yn unig) byr neu siarad â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich fferyllfa neu bractis meddyg teulu.
Os ydych chi'n defnyddio mewnanadlydd dos mesuredig gwasgeddedig (pMDI), efallai yr hoffech chi hefyd ystyried defnyddio gwahanydd. Mae defnyddio gwahanydd yn helpu’r swm cywir o feddyginiaeth i gyrraedd eich ysgyfaint, lle mae ei angen. Mae hyn yn helpu i leihau sgileffeithiau ac yn golygu bod llai o feddyginiaeth yn cael ei wastraffu. Efallai y bydd hefyd yn haws i chi gymryd eich meddyginiaeth gyda gwahanydd.
Fodd bynnag, os ydych chi'n defnyddio mewnanadlydd powdr sych (DPI) neu fewnanadlydd niwl mân (SMI), nid oes angen i chi ddefnyddio gwahanydd.
Darllenwch fwy am wahanyddion, gan gynnwys sut i ddefnyddio un (Saesneg yn unig).
3. Ar y cyd â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, trafodwch newid i fewnanadlydd carbon is
Y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld â'ch meddyg teulu, nyrs anadlol neu fferyllydd, siaradwch â nhw am newid i fewnanadlydd mwy ecogyfeillgar.
Dysgwch fwy am fewnanadlwyr carbon is a pham eu bod yn well i'r amgylchedd.
Gallwch hefyd siarad â Llinell Gymorth Asthma + Lung UK (Saesneg yn unig) os bydd gennych unrhyw gwestiynau am newid mewnanadlydd. Gellir cysylltu â'n harbenigwyr nyrsio anadlol a chynghorwyr gofal iechyd cyfeillgar ar 0300 222 5800 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
4. Ewch â mewnanadlwyr a ddefnyddiwyd gennych yn ôl i'ch fferyllfa leol i'w gwaredu
Peidiwch â rhoi mewnanadlwyr a ddefnyddiwyd gennych yn y bin – yn hytrach, ewch â nhw i’ch fferyllfa leol i’w gwaredu y tro nesaf y byddwch yn ymweld â hi. Bydd y fferyllfa yn cael gwared arnynt yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar a byddwch yn gwneud gwahaniaeth i'n hamgylchedd.
Darllenwch fwy am gael gwared ar fewnanadlwyr ar ein tudalen am sut mae mewnanadlwyr yn effeithio ar yr amgylchedd.
Pedwar newid syml gyda'ch mewnanadlydd
Yn y fideo hwn, mae Naomi, Nyrs Anadlol Arbenigol yn Asthma + Lung UK, yn esbonio sut y gallwch chi wneud pedwar newid syml gyda'ch mewnanadlydd i helpu'ch cyflwr ar yr ysgyfaint, yn ogystal â'r amgylchedd. Mae'n bwysig trafod unrhyw newidiadau o ran mewnanadlydd gyda'ch meddyg teulu, nyrs anadlol neu fferyllydd.
(Dim ond yn Saesneg mae'r fideo ar gael ond ceir trawsgrifiad Cymraeg isod)
Pedwar newid syml gyda'ch mewnanadlydd i helpu'ch cyflwr ar yr ysgyfaint
Mae mewnanadlwyr yn bwysig i lawer o bobl â chyflyrau ar yr ysgyfaint. Mae hyn oherwydd eu bod yn helpu i drin y cyflwr yn eich ysgyfaint. Dyma bedwar cam y gallwch chi eu cymryd i ddechrau teimlo'n well heddiw a helpu'r amgylchedd ar yr un pryd.
1. Cymerwch eich mewnanadlydd atal bob dydd, fel y rhagnodir
Mae'r ddelwedd hon yn dangos llwybr anadlu person ag asthma sydd heb ei reoli'n ddigonol, COPD neu gyflwr arall ar yr ysgyfaint lle mae angen mewnanadlwyr. Mae ei lwybr anadlu wedi mynd yn gul ac mae ganddo lawer o fwcws gormodol. Mae defnyddio eich mewnanadlydd atal bob dydd, fel y rhagnodir, yn helpu i atal hyn rhag digwydd. Mae'n trin y cyflwr yn eich ysgyfaint i'ch helpu i osgoi fflamychiad neu bwl o asthma. Bydd yn eich helpu i gadw'n iach, gan olygu llai o apwyntiadau, arosiadau yn yr ysbyty neu amhariadau i'ch bywyd. Mae eich mewnanadlydd lliniaru yn wahanol. Mae'n trin symptomau'n gyflym pan fyddant yn ymddangos, ond nid yw'n trin eich cyflwr sylfaenol. Dim ond pan fydd eich symptomau'n gwaethygu neu pan fyddwch chi'n cael fflamychiad neu bwl o asthma y dylid defnyddio eich mewnanadlydd lliniaru.
2. Defnyddiwch y dechneg mewnanadlydd gywir
Mae techneg mewnanadlydd dda yn gwneud gwahaniaeth mawr i faint o feddyginiaeth sy'n cyrraedd eich llwybrau anadlu. Efallai nad yw’r ffordd rydych chi’n defnyddio’ch mewnanadlydd yn rhywbeth rydych chi’n meddwl amdano’n aml iawn, ond mae cael y dechneg iawn yn gyflym ac yn hawdd, a bydd yn eich helpu i deimlo ar eich gorau. Siaradwch â'ch meddyg teulu, nyrs neu fferyllydd, neu ffoniwch linell gymorth Asthma + Lung UK i gael help i gael y dechneg mewnanadlydd gywir.
3. Ar y cyd â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, newidiwch i fewnanadlydd carbon is
Ar y cyd â'ch meddyg teulu, nyrs neu fferyllydd, gallwch adolygu eich mewnanadlydd presennol a dod o hyd i'r un gorau i reoli'ch symptomau. Mae rhai mewnanadlwyr yn well i'r amgylchedd hefyd, felly byddwch chi'n gofalu amdanoch chi'ch hun ac yn helpu'r amgylchedd ar yr un pryd.
4. Ewch â mewnanadlwyr a ddefnyddiwyd gennych yn ôl i'ch fferyllfa leol i'w gwaredu
Peidiwch â rhoi mewnanadlwyr a ddefnyddiwyd gennych yn y bin. Yn lle hynny, ewch â nhw i'ch fferyllfa leol y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld â hi. Bydd y fferyllfa yn cael gwared arnynt yn y ffordd fwyaf ecogyfeillgar. Gallai'r newidiadau syml hyn helpu'ch ysgyfaint a'r amgylchedd ar yr un pryd. Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol heddiw i ddechrau arni, neu cysylltwch â ni am gyngor arbenigol drwy ein llinell gymorth.
Newid eich mewnanadlydd – stori Lara
(Dim ond yn Saesneg mae'r fideo ar gael ond ceir trawsgrifiad Cymraeg isod)
Lara ydw i a dwi'n byw gyda chyflwr ar yr ysgyfaint o'r enw asthma.
Cefais ddiagnosis yng nghanol fy ugeiniau.
Newidiais fy mewnanadlydd rhai blynyddoedd yn ôl. Awgrymodd fy meddyg teulu y gallai helpu i wella fy rheolaeth ar asthma.
Yn y gorffennol roeddwn i'n defnyddio mewnanadlydd brown – aerosol ydoedd. Nawr rwy'n defnyddio mewnanadlydd powdr sych – hwnnw yw fy mewnanadlydd atal ac rwy'n yn ei gymryd bob dydd.
Ar y dechrau roeddwn i braidd yn ansicr ynglŷn â'r newid a meddyliais 'Sut ydw i'n mynd i ddefnyddio'r un newydd? Sut ydw i'n mynd i ddysgu sut i'w ddefnyddio?'
Ond wedyn pan wnaethon nhw awgrymu y gallai fod o gymorth wrth reoli fy asthma ac fe wnaethon nhw esbonio nad yw mor anodd â hynny i'w ddefnyddio – mae'n eithaf hawdd – helpodd i dawelu fy meddwl ac yna meddyliais 'Beth am roi cynnig arni?'
Dwi'n hoff iawn o'i ddefnyddio oherwydd mae'n syml iawn i'w ddefnyddio. Mae yna fanteision ychwanegol, fel ei fod hawdd iawn i'w gario yn fy mag llaw.
Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio gwahanydd gyda fy hen fewnanadlydd.
Mae'r dechneg i'w ddefnyddio yn llawer symlach hefyd. Roedd o fudd mawr i fy asthma.
Roedd rhoi nodyn atgoffa ar fy ffôn, fore a nos, yn ddefnyddiol iawn i sicrhau fy mod i'n cofio cymryd fy mewnanadlydd. Helpodd hynny i mi gael y drefn arferol honno.
Pan fydd rhywun yn gofyn i chi am newid eich mewnanadlydd am y tro cyntaf, efallai y byddwch chi'n teimlo ychydig yn bryderus yn ei gylch a gallai fod yn syniad brawychus
dysgu am fewnanadlydd newydd – ond byddwch yn agored i'r newid hwnnw.
Hoffwn i pe bawn i wedi newid fy mewnanadlydd flynyddoedd yn ôl oherwydd gall fod o fudd mawr i'ch asthma a gall helpu'r amgylchedd ar yr un pryd.
Cael cefnogaeth
Ffoniwch neu anfonwch neges WhatsApp at ein Llinell Gymorth i gael cymorth gyda'ch cyflwr. Mynnwch gyngor ar eich meddyginiaethau, symptomau neu deithio gyda chyflwr ar yr ysgyfaint, neu ffoniwch ni i ddweud helo.